Job type: Full-time, Permanent

Salary: £44,632 - £45,591 a year

Loading ...

Job content

Ynglŷn â’r Swydd

Mae arweinwyr gwleidyddol CLlLC wedi amlinellu Maniffesto uchelgeisiol, a hynny ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021 ac etholiadau lleol 2022. Mae ein haelodau wedi gosod her i’r sefydliad fod yn fwy cadarnhaol a pherswadiol ym mhopeth rydym yn ei wneud, gan ganolbwyntio fwy ar faterion cyhoeddus a chryfhau ymgysylltu â’n haelodaeth ehangach ac Aelodau’r Senedd.


Mae hon yn rôl gyffrous o fewn CLlLC, a fydd yn ganolog i ail-ffocysu ac ail-siapio dull CLlLC o gyflawni cyfathrebu a materion cyhoeddus wrth i ni ddod allan o’r pandemig COVID ac wrth ddatblygu cysylltiadau â’r Senedd newydd a’r cynghorau a fydd newydd eu hethol yn dilyn etholiadau lleol 2022.

Drwy weithio’n agos â’r Prif Weithredwr, yr Uwch Dîm Rheoli ac arweinwyr gwleidyddol CLlLC, bydd y Rheolwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn cynghori, yn rheoli ac yn cyflawni gweithgarwch cyfathrebu corfforaethol a materion cyhoeddus y sefydliad er mwyn sicrhau newid cadarnhaol ar ran llywodraeth leol.

Bydd y Rheolwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn rheoli Tîm Cyfathrebu estynedig, sy’n cynnwys dau Swyddog Cyfathrebu, gan ganfod a datblygu cyfleoedd a pherthnasoedd gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid allweddol. Bydd deiliad y swydd yn ceisio cydlynu a datblygu cymuned o ymarferwyr cyfathrebu ymhlith y cynghorau i gyfrannu at, a chefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol CLlLC a hyrwyddo enw da llywodraeth leol ar y cyd.

Rydym yn chwilio am unigolyn arloesol, llawn cymhelliant, a thalentog a fydd yn gallu cael effaith ar unwaith, gan ddod â syniadau ac egni newydd a helpu llywio CLlLC wrth symud ymlaen.

Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol:Ydy

Cymraeg yn hanfodol:Ydy

Larlwythwch y Pecyn Recriwtio Ymaw
Lawrlwythwch y ffurflen Gais Yma

___________________________________________________________________________________________________________________________________

About the Role

The WLGA’s political leaders have outlined an ambitious Manifesto ahead of May’s Senedd elections and the 2022 local elections. Our members have set the organisation a challenge to be more positive and persuasive in everything we do, focusing more on public affairs and strengthening engagement with our wider membership and Members of the Senedd.

This is an exciting role within the WLGA, which will be integral in refocusing and reshaping the WLGA’s approach to communications and public affairs as we come out of the COVID pandemic and developing relations with the new Senedd and newly elected councils following the 2022 local elections.

Working closely with the Chief Executive, Senior Management Team and WLGA political leadership, the Communications and Public Affairs Manager will advise, manage and deliver the organisation’s corporate communications and public affairs activity in order to secure positive change on behalf of local government.

The Communications and Public Affairs Manager will manage a Communications Team including two Communications Officers and will identify and develop opportunities and relationships with partners and key stakeholders. The post-holder will seek to coordinate and develop a community of council communications practitioners to contribute and support national WLGA campaigns and promote the reputation of local government collectively.

We are looking for an innovative, motivated and talented individual who will be able to make an immediate impact, bringing new ideas and energy and helping to steer the WLGA forward.

Politically Restricted:Yes

Welsh Language essential: Yes

Download Recruitment Pack Here

Download Application form Here

Closing date:19 Medi / 19 September 2021

Dyddiad y Cyfweliad / Interview date:29 Medi / 29 September 2021

Loading ...
Loading ...

Deadline: 16-07-2024

Click to apply for free candidate

Apply

Loading ...
Loading ...

SIMILAR JOBS

Loading ...
Loading ...