Artist/Dylunydd Preswyl (x2)
Ver: 102
Dia de atualização: 01-06-2024
Categoria: Artes / Design
Indústria: Education
Tipo de empregos: Contract
Conteúdo do emprego
Oriau amrywiol, yn ystod y tymor yn unig
Lleoliad: Llwyn Y Bryn
Mae dau gyfle cyffrous wedi codi i artistiaid/dylunwyr preswyl feithrin eu datblygiad fel artistiaid a chyflwyno sgyrsiau a gweithdai i ddysgwyr ochr yn ochr â thimau Coleg Gwyr Abertawe.
Bydd yr artistiaid preswyl yn defnyddio llefydd gwag ac offer Campws Llwyn y Bryn (pan f oar gael) i archwilio eu gwaith. Yn ystod y cyfnod preswyl, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i weld ystod eang o waith a gynhyrchir gan ddysgwyr ac yn arddangos eu gwaith ochr yn ochr â nhw, yn ogystal â chwrdd ag artistiaid a sefydliadau eraill yn y sector.
Mae’r rhaglen Artistiaid Preswyl yn hyblyg a bydd yn cael ei datblygu yn dibynnu ar y ffurf gelf a phrofiad ac arbenigedd yr artist. Bydd cyfleoedd o fewn y rôl i ymchwilio, datblygu a chyflwyno gwaith gyda chefnogaeth y coleg.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn artist/dylunydd wedi’i leoli yng Nghymru ac yn rhedeg practis sefydledig/arfaethedig ac wedi graddio yn ddiweddar. Byddai meddu ar brofiad o gyflwyno gweithdai i ddysgwyr ar draws ystod eang o gyrsiau yn fuddiol iawn gan y bydd hyn yn rhan allweddol o’r rôl.
Fel cyfathrebwr hyderus a chlir, byddwch yn medru ysbrydoli ac ysgogi myfyrwyr. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a datrys problemau gwych a’r gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm. Byddwch hefyd yn barod i weithio’n hyblyg. Bydd gofyn i chi ddangos i ddysgwyr sut i hyrwyddo eu gwaith trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, a byddwch yn arddangos eich gwaith chi ar gyfryngau cymdeithasol y coleg.
Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
(Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. )
Data limite: 16-07-2024
Clique para aplicar para o candidato livre
Reportar emprego
EMPREGOS SEMELHANTES
-
⏰ 29-06-2024🌏 Brecon, Wales
-
⏰ 18-06-2024🌏 Newport, Wales
-
⏰ 20-06-2024🌏 Cardiff, Wales
-
⏰ 21-06-2024🌏 Cardiff, Wales